Data amgylcheddol: 'Bylchau yn ein gwybodaeth'

Cymorth

Mae "bylchau go iawn yn ein gwybodaeth" o ran data amgylcheddol, dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies wrth y Pwyllgor Amgylchedd ar 1 Mai 2014.

Roedd Mr Davies yn rhoi tystiolaeth ar reoli tir yn gynaliadwy.

Gofynnwyd i'r gweinidog gan Russell George, yr aelod Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, beth sy'n cael ei wneud i wella casglu data amgylcheddol.

Atebodd Mr Davies fod arolwg gan 25 o fudiadau cefn gwlad y llynedd yn "dangos bod rhai bylchau go iawn yn ein gwybodaeth, a hefyd yn ein gallu i gasglu gwybodaeth ac i ddeall y data sydd ei angen arnom, er mwyn gosod amcanion ac uchelgeisiau clir iawn ar gyfer nid yn unig rheoli tir cynaliadwy, ond sut yr ydym yn mesur yr hyn mae hynny'n ei olygu o ran bioamrywiaeth ac ati".

Roedd y gweinidog yn cyfeirio at arolwg a ddywedodd bod bywyd gwyllt Cymru a'r DU 'mewn argyfwng'.

Yn ôl yr adroddiad mae niferoedd hyd at 60% o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion wedi gostwng yn y degawdau diwethaf, er gwaethaf ymgyrchoedd cadwraeth.

Dywedodd y gweinidog hefyd ei fod yn "hyderus" y bydd nifer uchel o bobl yn cofrestru ar gyfer y cynllun Glastir, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.

Bwriad y pwyllgor yw llunio argymhellion i "helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i hoffer polisi i'r effaith orau bosibl i sicrhau bod ein tir yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy".

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.