Diweithdra ymhlith ieuenctid

Cymorth

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth resynu "bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r llywodraeth Cymru bresennol".

Roedd yn arwain dadl Plaid Cymru ar 30 Ebrill 2014 ar gyfradd ddiweithdra ymhlith ieuenctid.

Galwodd ar lywodraeth Cymru i "gymryd camau ar unwaith i wella rhagolygon economaidd pobl ifanc".

Fe wnaeth Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol "resynu mai dim ond 60% o raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio."

Yn ôl William Graham, byddai'r Ceidwadwyr yn creu'r amodau lle y gall y sector preifat ffynnu a chreu swyddi newydd o safon yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc fel ffordd o feithrin ffyniant.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, bod y pwnc hwn yn "un o'r materion mwyaf difrifol sy'n wynebu'r byd gorllewinol".

Dadleuodd bod y glymblaid yn San Steffan wedi "rhoi'r gorau i obeithion a dyheadau cenhedlaeth o bobl ifanc".

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.