Gresynu am fod yn gymwys am gronfeydd strwythurol

Cymorth

Fe wnaeth y Ceidwadwr Byron Davies resynu bod gorllewin Cymru a'r cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Roedd Mr Davies yn arwain dadl ar berthynas Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ar 30 Ebrill 2014.

Mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd.

Galwodd ar lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod 2014-2020 "yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys am bedwaredd rownd."

Pwysleisiodd Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol "pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel".

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Rhodri Glyn Thomas pe byddai'r DU yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, "dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi".

Yn ôl y gweinidog cyllid, Jane Hutt, mae'r UE yn cynnig "manteision gwirioneddol" i Gymru, drwy'r farchnad sengl a biliynau o bunnoedd o gronfeydd yr UE.

Drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE, meddai, mae Cymru wedi elwa ar ychydig dros £4 biliwn ers 2000, gan "gefnogi busnes, ymchwil ac arloesi, helpu pobl i gael gwaith, gwella sgiliau, gwella rhwydweithiau digidol a thrafnidiaeth, adfywio'n cymunedau, a gwella'n hamgylchedd."

Read this in English

Copyright © 2018 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.