Masnach a Buddsoddi y DU: Gwadu bod Cymru yn yr 'ail adran'

Cymorth

"Mae gennym berthynas waith dda gyda UKTI (Masnach a Buddsoddi y DU) ac nid ydym yn poeni amdani", meddai gweinidog yr economi Edwina Hart ar 3 Ebrill 2014.

Roedd Mrs Hart yn ymateb i'r AC Llafur Joyce Watson a ddyfynnodd sylw gan David Williams, cadeirydd Panel Sector Ynni a'r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, bod Cymru yn cael ei gweld fel "chwaraewr ail adran" o safbwynt UKTI.

Mae UKTI yn adran anweinidogol o lywodraeth y DU sydd yn ceisio helpu allforwyr yn y DU i lwyddo yn fyd-eang a chynorthwyo cwmnïau tramor i ddod â buddsoddi o ansawdd uchel i'r DU.

Roedd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Mrs Hart ar ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi.

Yn ôl Mrs Hart, "ofer yw gwneud cymhariaeth gyda'r hen Awdurdod Datblygu Cymru, Masnach Cymru Rhyngwladol a Busnes Rhyngwladol Cymru.

"Rydym bellach yn gweithredu mewn amgylchedd economaidd sy'n wahanol iawn ac mae tirwedd ddiwydiannol Cymru yn wahanol hefyd."

Yn gynharach yn y pwyllgor, trafodwyd cyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 gyda'r Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd. A thrafodwyd mentrau cymdeithasol gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a gweinidog yr economi.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.