S4C: Gwasanaeth manylder uwch ar deledu lloeren erbyn 2016?

Cymorth

Yn y sesiwn yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 27 Mawrth 2014 ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, dywedodd prif weithredwr S4C Ian Jones ei fod yn gobeithio y gallai'r sianel lansio gwasanaeth manylder uwch ar deledu lloeren erbyn 2016.

Wrth geisio arbed arian, daeth S4C â gwasanaeth Clirlun - sef y llun manylder uwch ar gael i wylwyr Freesat - i ben yn 2012 er mwyn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn.

Pwysleisiodd Ian Jones a chadeirydd S4C Huw Jones hefyd yr angen am sicrwydd ariannol yn ogystal ag annibyniaeth olygyddol a gweithredol.

Gofynnodd Peter Black AC am yr argymhelliad yn adroddiad Comisiwn Silk y dylai cyfrifoldeb dros S4C, gan gynnwys y cyllid perthnasol, gael ei drosglwyddo oddi wrth yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ( DCMS ) i Lywodraeth Cymru.

Atebodd Huw Jones ei fod yn "fater i lunwyr polisi i benderfynu lle y dylai atebolrwydd orwedd". Dywedodd mai'r cwestiwn allweddol yw "sut mae sicrhau cyllid digonol i ganiatáu i S4C i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel y mae siaradwyr Cymraeg a phobl Cymru yn gyffredinol yn ei haeddu ."

Gofynnodd Rhodri Glyn Thomas, "a oes gennych unrhyw bryderon am y berthynas gyda'r BBC?"

Atebodd Huw Jones mai'r "pryder sylfaenol yw bod y cytundeb gyda'r BBC yn dod i ben yn 2017 , felly mae'n hanfodol bwysig bod dealltwriaeth glir ynghylch beth fydd yn digwydd ar ôl 2017 ".

Gofynnodd Mr Thomas "a ydyw'r berthynas sy'n datblygu rhwng y BBC ac S4C yng Nghymru yn golygu bod y ddadl am ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C yn amherthnasol, oherwydd yr unig drafodaeth y gallwn yn awr ei chael yw ynghylch datganoli darlledu yn gyffredinol i Gymru? Byddai'n sefyllfa ryfedd iawn, o ystyried y berthynas newydd, pe byddai gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol am S4C a bod y cyfrifoldeb am y BBC yn parhau i fod yn San Steffan".

Atebodd Huw Jones mai'r "pwynt synnwyr cyffredin y mae angen ei wneud ar hynny yw bod gallu y llywodraeth yn San Steffan i greu sefyllfa lle mae ariannu S4C drwy ffi'r drwydded yn ddigonol, efallai yn gryfach na'r gallu sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd gan y i sicrhau hynny.

"Dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn awyddus i'r drafodaeth ar y cyllid yn y dyfodol i S4C a'r cyllid a ddarperir drwy ffi'r drwydded, gael eu gweld yn fwy cyffredinol yng nghyd-destun dadl ar adnewyddu siarter y BBC "

Clywodd y pwyllgor hefyd fod symudiad ITV Cymru i bencadlys ym Mae Caerdydd ar safle gerllaw y Cynulliad Cenedlaethol "yn gysylltiedig â llwyddiant y cwmni ehangach" sydd, yn ôl y pennaeth newyddion a rhaglenni Phil Henfrey, yn "broffidiol, gwydn a chryf".

Bydd y darlledwr yn adleoli tua 100 o staff o Groes Cwrlwys i Sgwâr y Cynulliad yn ddiweddarach eleni, a dywedodd Mr Henfrey hefyd y bydd hyn yn golygu "buddsoddiad enfawr mewn technoleg".

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.