Dadl y Ceidwadwyr: Treth Gyngor

Cymorth

Arweiniodd Mark Isherwood ddadl y Ceidwadwyr ar dreth gyngor ar 26 Mawrth 2014.

Dywedodd Mr Isherwood fod pobl yn yr Alban yn y flwyddyn 2013/2014 yn gwario cyfartaledd o 3.67% o'u cyflogau ar dreth gyngor lle yng Nghymru rydym yn gwario 4.37%.

Fe fydd y cynnydd mewn treth gyngor yng Nghymru yn codi'r ganran yma i 4.52%, ond yn yr Alban maent wedi rhewi y dreth gyngor.

Dywedodd yr aelod Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas y dylid gadael i'r llywodraeth leol wneud y penderfyniad.

Dyweodd yr aelod Llafur Mike Hedges nad yw treth gyngor yn uwch yn Nghymru nag yn Lloegr.

Yn ei hymateb dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths, ei bod hi'n "ymwybodol ei fod hi'n amser caled i deuluoedd yng Nghymru."

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.