Trydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd

Cymorth

Gofynnodd Byron Davies, aelod gorllewin de Cymru, i'r gweinidog ar 18 Mawrth 2014 am ddatganiad am "honiadau gan y Prif Weinidog na fydd Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifol am dalu costau sy'n gysylltiedig â thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd".

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi mynnu mai llywodraeth y DU ddylai dalu am drydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd, ond yn ôl llywodraeth y DU mae llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi cytuno dwy flynedd yn ôl y byddai'r arian yn dod gan fasnachfraint West and Borders Rail.

Cafodd y cynllun i drydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd - a phrif lein y gorllewin rhwng Caerdydd ac Abertawe - ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2012, ar gost o tua £350m.

Yn ôl Byron Davies, roedd ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ar y pryd, Justine Greening, wedi esbonio'r 'cytundeb' ar drydaneiddio mewn llythyr i lywodraeth Cymru.

Yn ôl Mr Davies, dywedodd Ms Greening y byddai masnachfraint Cymru a'r Gororau yn cynnwys gwasanaethau trydanol yn y dyfodol ac y byddai cost hynny yn dod o "godi tâl ar y fasnachfraint i ad-dalu'r buddsoddiad gan Network Rail".

Ar y pryd, meddai Byron Davies, fe wnaeth gweinidog llywodraeth Cymru, Carl Sargeant ysgrifennu yn ôl i gadarnhau'r cytundeb.

Ond yn ôl y gweinidog trafnidiaeth Edwina Hart, roedd Prif Weinidog y DU David Cameron wedi cytuno yn gyhoeddus - ac mewn cyfarfodydd - y byddai llywodraeth y DU yn talu am drydaneiddio leiniau'r cymoedd.

Ychwanegodd Ms Hart nad oedd cyfrifoldeb am fuddsoddi mewn rheilffyrdd wedi ei ddatganoli ac yn parhau yn San Steffan.

Yna fe wnaeth Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. ddatganiad a chyhoeddiad busnes.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.