Apwyntiadau meddyg teulu a gollwyd yn 'hynod rhwystredig'

Cymorth

Cafodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei herio gan yr aelod Ceidwadol Mohammad Asghar ar 19 Mawrth 2014 ynghylch y camau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o apwyntiadau meddyg teulu a gollwyd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "hynod rhwystredig" i feddygon teulu pan fydd pobl yn colli apwyntiadau, ond eu bod fel arfer am resymau tu hwnt i reolaeth cleifion yn hytrach na bod yn fwriadol.

Gofynnodd Elin Jones, aelod Plaid Cymru, a oedd y gweinidog yn rhwystredig nad yw pob practis meddyg teulu yn anfon negeseuon testun i atgoffa cleifion.

Ymatebodd y gweinidog y bydd cyflwyno system gyfrifiadurol newydd ar gyfer meddygon teulu ym mis Ebrill yn hwyluso lledaenu arfer da.

Ymhlith pynciau eraill a drafodwyd oedd safbwynt Llywodraeth Cymru ar y gwasanaethau presennol yn Ysbyty Llwynhelyg yn dilyn cyfarfod y gweinidog gyda'r Tîm Gweithredu i Achub Ysbyty Llwynhelyg, a darpariaeth ar gyfer diagnosis a chymorth i'r rhai ar y sbectrwm awtistig.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.