'Ann Clwyd heb gyflwyno tystiolaeth'

Cymorth

"Dydy Ann Clwyd heb gyflwyno tystiolaeth na ffeithiau" yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones ar 18 Mawrth 2014.

Beirniadodd Mr Jones yr AS Llafur Ann Clwyd am y tro cyntaf am ei hymosodiad ar gyflwr y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru wrth ateb cwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies.

Dywedodd y prif weinidog "rwyf wedi gofyn iddi, mae'r gweinidog dros iechyd wedi gofyn iddi, dydy hi heb gynhyrchu dim ond sylwadau dienw sydd yn amhenodol, nid ydym yn gwybod o ble y daethant, p'un ydynt yn gywir ai peidio.

"Rwy'n ofni ein bod wedi gofyn iddi ar fwy nag un achlysur i gynhyrchu'r dystiolaeth i gefnogi ei honiadau, rwyf wedi gwneud hyn, mae'r gweinidog iechyd wedi gwneud hyn, rydw i wedi gofyn iddi yn bersonol ac yn ysgrifenedig, dydy hi heb wneud hynny. "

Holodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y prif weinidog ynghylch trydaneiddio'r rheilffordd yn y cymoedd a gofynnodd hi am ei fersiwn ef o ddigwyddiadau a pha unai oedd cytundeb ffurfiol nôl yn 2012 ar y mater yma.

Doedd "dim cytundeb ar unrhyw adeg" y dylai llywodraeth Cymru ariannu'r cynllun oedd ymateb y prif weinidog.

Dywedodd Ms Wood fod gwahaniaeth rhwng barn y prif weinidog yng Nghymru ac ysgrifennydd gwladol Cymru.

Yn ôl Mr Jones roedd ymateb yr ysgrifennydd gwladol yn "ffinio ar fod yn hysterig".

Ychwanegodd "pam ar wyneb y ddaear y byddwn ni fel llywodraeth yn edrych i ariannu rhywbeth sydd heb ei ddatganoli?"

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.