Angen 'rhyddhau egni a doethineb' staff y GIG

Cymorth

Mae angen mwy o bwyslais ar "ryddhau egni, brwdfrydedd a doethineb" staff y gwasanaeth iechyd gwladol, yn ôl prif weithredwr y GIG yng Nghymru.

Cafodd David Sissling 'sesiwn ymadawol'gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 18 Mawrth 2014 - mae'n gadael y swydd ar ddiwedd mis Mawrth i symud i rôl gyda'r gwasanaeth iechyd yn nwyrain canolbarth Lloegr.

Gofynnodd yr aelod Llafur Jenny Rathbone, i ba raddau y mae byrddau iechyd wedi "sefydlu dulliau 'gwaelod i fyny' gyda eu staff, i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn ail-lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion cleifion yn well" .

Atebodd Mr Sissling, "i raddau amrywiol, a dim digon mae'n debyg.

"Mae perygl ein bod yn gweld popeth o Lywodraeth Cymru i lawr".

Dywedodd mai'r her yw "gwrthdroi hynny a gweld y potensial enfawr o gael perthynas wahanol gyda staff, y gwyddom yw'r arbenigwyr, sydd ag ymdeimlad enfawr o werth a chymhelliant.

"Mae rhyddhau egni, brwdfrydedd a doethineb yn dasg go iawn.

"Mae'n digwydd ac mae angen iddo ddigwydd fwy" .

Dywedodd y byddai'n amhriodol iddo wneud sylwadau ar stori newyddion heddiw fod BBC Cymru yn deall y bydd adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ''adolygiad sylfaenol'' o Arolygiaeth Iechyd Cymru - y corff sydd yn edrych ar y gwasanaeth yng Nghymru.

Dywedodd Mr Sissling y bydd yn aros i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.