Canlyniadau TGAU yn 'anghyfiawnder'

Cymorth

Mae canlyniadau TGAU mis Ionawr yn "anghyfiawnder" i bobl Cymru yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Andrew R T Davies ar 11 o Fawrth 2014.

Atebodd Mr Jones fod "adolygiad" ar y gweill.

Dywedodd Mr Davies fod 81 o ysgolion wedi eu heffeithio gan yr "helynt" a bod gostyngiad o 18% yng ngraddau 'C'.

Dywedodd y prif weinidog nad oedd am wneud "unrhyw ymddiheuriadau am godi lefelau papurau arholiad" a bod hyn sylw Mr Davies yn un "hynod" gan "ddyn sydd am wneud toriadau o 20% i gyllid addysg".

Cwestiynodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams y prif weinidog ar ganlyniadau TGAU yn ogystal.

Atebodd Mr Jones ei bod hi'n "bwysig fod athrawon yn dysgu sgiliau sylfaenol i blant."

Yn ogystal, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n ffafrio gweld Cynulliad o 80 o aelodau, yn hytrach na'r 60 presennol.

Ond fe ddywedodd y byddai'r syniad o gynyddu nifer yr aelodau yn ''anodd i'w werthu'' i'r cyhoedd, yn enwedig heb gwtogi ar wleidyddion mewn haenau eraill o lywodraeth.

Dyma'r tro cynta' i Carwyn Jones yn glir ei fod o blaid cynyddu nifer yr aelodau.

Ond wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones nad oedd am weld y syniad o fwy o ACau yn cael ei gyplysu gyda mwy o ddatganoli.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.