Isafswm lefelau staffio nyrsys?

Cymorth

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cael cefnogaeth i gael ystyriaeth bellach i'w hymgais i greu deddf i reoli lefelau staffio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Nod Kirsty Williams yw gosod lefelau staffio gorfodol ar gyfer nyrsys yn ysbytai Cymru - rhywbeth y mae'n credu fydd yn arwain at "well gofal i gleifion".

Fe ddaeth adroddiad Francis i ddiffygion yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr i'r casgliad bod prinder staff nyrsio yn ffactor bwysig yn y gofal gwael yn yr ysbyty.

Er mai trafod problemau yn y GIG yn Lloegr yr oedd yr adroddiad, fe ddywed Ms Williams bod hynny'n berthnasol i Gymru hefyd.

Mae'r gymhareb o staff i gleifion yn ysbytai Cymru yn is nag unman arall yn y DU.

Yn ôl Kirsty Williams yr ateb yw cyflwyno deddf fyddai'n gorfodi Llywodraeth Cymru i bennu lefel staffio gorfodol o nyrsys am bob claf.

Read this in English

Copyright © 2019 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.