Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2012-13

Cymorth

Wrth arwain dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2012-13, fe wnaeth y Ceidwadwr Angela Burns "resynu nad yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella", a bod y gyfran o ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu brandio yn 'anfoddhaol' wedi cynyddu o 14% i 23%.

Galwodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wreiddio ymwybyddiaeth o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ymhlith holl aelodau staff ysgolion "i sicrhau y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i liniaru ar effaith tlodi mewn ysgolion".

Ar ran Plaid Cymru, fe wnaeth Simon Thomas resynu at ganfyddiad Estyn bod 'llai na hanner ysgolion uwchradd yn dda neu'n well, ac mae'r gyfran sy'n anfoddhaol wedi cynyddu o un o bob saith ysgol i un o bob pedair'.

Dywedodd y gweinidog addysg Huw Lewis fod "y rhaglen fwyaf dwys o ddiwygio mewn addysg Gymreig ers 1944" ar y gweill.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.