Ehangu cynllun Dechrau'n Deg

Cymorth

Mae 23,000 o blant o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn cael cymorth gan gynllun Llywodraeth Cymru sy'n eu helpu i gael dechrau teg i fywyd, sy'n nifer mwy nag erioed o'r blaen, meddai'r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething.

Dywedodd Mr Gething wrth Aelodau'r Cynulliad ar 4 Mawrth bod y prosiect gwerth £279 miliwn i ehangu cynllun Dechrau'n Deg yn mynd i helpu mwy o deuluoedd nag erioed o'r blaen.

Ond dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts bod gwerthusiad diweddaraf y rhaglen "wedi tynnu sylw at nifer o anawsterau wrth asesu pa mor effeithiol y mae'r cynllun wedi bod hyd yn hyn, yn enwedig gan nad oes llinell sylfaen priodol wedi ei sefydlu cyn i'r prosiect gael ei gyflwyno i Gymru gyfan" .

O ganlyniad, dywedodd Mr Roberts "erbyn hyn mae'n anodd iawn i weld a yw'r rhaglen yn cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig".

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.