Cynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru

Cymorth

Mae'r Gweinidog Tai ac Adfwyio, Carl Sargeant wedi gosod targed newydd o 10,000 o dai fforddiadwy newydd yn nhymor hwn y Llywodraeth, yn hytrach na 7,500.

Dywedodd y gweinidog wrth Aelodau'r Cynulliad ar 4 Mawrth mai ei flaenoriaeth bennaf yw cynyddu'r cyflenwad tai - tai fforddiadwy a thai'r farchnad. A "mawr yw'r angen", meddai.

Yn ôl Mr Sargeant, "Mae'r cynllun Cymorth i Brynu Cymru gwerth £170m a lansiais ddechrau'r flwyddyn yn dwyn ffrwyth. Bydd y cynllun yn sbardun i adeiladu 5,000 o gartrefi newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf ac mae adeiladwyr yn dweud eisoes ei fod wedi ailennyn hyder yn y diwydiant adeiladu.

"Rydym yn gweithio'n dda hefyd at ein targed o ddarparu 7,500 o dai mwy fforddiadwy a defnyddio'r 5,000 o dai sydd ar hyn o bryd yn wag yn y sector preifat. Ond rwy'n benderfynol o wneud mwy".

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.