Disgwyl canllawiau ar gyflog uwch swyddogion

Cymorth

Bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths, yn cyhoeddi canllawiau ym mis Ebrill ar gyflog uwch swyddogion, dywedodd wrth aelodau ar 19 Chwefror 2014.

Roedd Ms Griffiths yn ymateb i Rhodri Glyn Thomas, aelod Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a ofynnodd "a oes angen protocol lle dylai uwch swyddog neu aelodau etholedig sy'n gyfrifol am daliadau sy'n anghyfreithlon neu sydd wedi elwa drwy daliad, sefyll o'r neilltu tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal? "

Pwysleisiodd y gweinidog fod "yn rhaid i gyflogau uwch swyddogion fod yn dryloyw iawn."

Daeth y sylwadau wedi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a ddywedodd bod taliadau i uwch-swyddogion cynghorau Sir Caerfyrddin a Sir Penfro yn "anghyfreithlon".

Mewn dau adroddiad damniol, dywedodd yr Archwilydd, Anthony Barrett nad oedd gan yr un o'r ddau gyngor y pŵer i roi taliadau ariannol i'r prif weithredwyr, Mark James a Bryn Parry Jones, a swyddogion eraill, yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, a hynny er mwyn rhesymau treth.

Ymysg eraill cafwyd cwestiynau ar Barthau Dim Galw Diwahoddiad, cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru, sut y mae awdurdodau lleol yn cael eu monitro o ran gweithredu polisi Llywodraeth Cymru a galwad am ddadansoddiad cost a budd o argymhellion Comisiwn Williams

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.