Datganoli Treth Dir y Dreth Stamp

Cymorth

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt ei bod yn edrych ymlaen at weld datganoli Treth Dir y Dreth Stamp araith y Frenhines.

Roedd Ms Hutt yn ateb cwestiwn gan yr aelod Ceidwadol Paul Davies ar 19 Chwefror 2014 ar amserlen datganoli Treth Dir y Dreth Stamp.

Serch hynny, dywedodd nad oedd hi'n aros am araith y Frenhines a bod "gwaith eisoes ar y gweill."

Gofynnodd yr aelod Plaid Cymru a fyddai hi'n cyflwyno deddfwriaeth ar y stamp dreth cyn etholiadau'r cynulliad yn 2016.

Dywedodd y gweinidog ei bod hi angen "edrych ar y ddeddfwriaeth sydd angen arnom" a dywedodd fod hyn yn cynnwys treth tir, stamp a rheoli trethi.

Gofynnodd Mr Jones "os ydych yn barod i gyflwyno deddfwriaeth" pam fod oedi?

Dywedodd Ms Hutt bod "angen gwneud hyn yn gywir" a bod angen i ni "fod yn barod gyda chynigion deddfwriaeth."

Holwyd y gweinidog ar fformiwla Barnett ac ail gyllideb atodol 2013-14 ymysg eraill.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.