Nwy anghonfensiynol: 'Angen canllawiau cynllunio manwl'

Cymorth

Dylai Llywodraeth Cymru ddilyn yr esiampl yn Lloegr a chyflwyno canllawiau cynllunio manwl ar gyfer delio â cheisiadau cynllunio ar gyfer chwilio am nwy anghonfensiynol ac elwa arno.

Dyna ddywedodd Dafydd Elis-Thomas ar 29 Ionawr 2014 wrth gyflwyno adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

Esboniodd mai barn flaenorol y pwyllgor oedd nad yw datblygu diwydiant ynni drud-ar-garbon arall ar hyn o bryd yn briodol ac na ellir ei gysoni ag ymrwymiadau'r UE a'r DU i leihau allyriadau.

Dywedodd nad oedden nhw wedi clywed "dim tystiolaeth argyhoeddiadol i awgrymu newid yn y farn hon".

Mae'r pwyllgor yn dal i bryderu nad yw'r materion diogelwch o safbwynt toriadau hydrolig wedi cael sylw digonol eto.

Yn ôl y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, mae'r llywodraeth yn cydnabod y ceir pryderon am y dulliau o echdynnu nwy anghonfensiynol.

Ond maent hefyd, meddai, yn nodi y dystiolaeth y gall y risgiau sy'n gysylltiedig â datblygu nwy siâl gael eu rheoli'n effeithiol cyn belled â bod yr arferion gweithredol gorau'n cael eu rhoi ar waith a'u gorfodi drwy gyfrwng rheoliadau.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.