'Cyllid Cymru yn methu yn yr hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni'

Cymorth

"Nid yw Cyllid Cymru yn addas i'w ddiben" yn ôl yr aelod Ceidwadol Nick Ramsay.

Dywedodd Mr Ramsay fod y cynnig heddiw i ystyried sefydlu banc masnachol o dan adain y wladwriaeth yn "gydnabyddiaeth fod Cyllid Cymru yn methu yn yr hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni" yn ystod Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar 29 Ionawr 2014.

Dywedodd y gweinidog, Edwina Hart, fod "llawer o'r gymuned fusnes yn hapus" gyda chefnogaeth Cyllid Cymru.

Ychwanegodd Ms Hart fod problemau wedi bodoli ond ei bod hithau wedi bod yn "dryloywam y rhain" a bod angen gwneud gwaith pellach.

Dywedodd Mr Ramsay fod Cyllid Cymru wedi "gwneud rhai pethau yn dda" ond "eraill yn wael" gan gynnwys cyfraddau llog uchel i gwmnïau "heb gyfiawnhad" a'i bod hi'n "amlwg" fod angen cael gwared ar Cyllid Cymru.

Atebodd Ms Hart na fyddai rhai busnesau yng Nghymru wedi llwyddo heb gymorth Cyllid Cymru.

Watch this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.