'Hyderus' am y consortia addysg rhanbarthol

Cymorth

Nid yw adroddiad Comisiwn Williams yn herio model y consortia addysg rhanbarthol y mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu, yn ôl y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis.

Yr oedd yn ateb cwestiwn gan y Ceidwadwr Suzy Davies ar 29 Ionawr 2014.

Yn ôl yr adroddiad gan Gomisiwn Williams, dylai nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cwtogi o 22 i naill ai 10, 11 neu 12.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen newid "ar frys", ac y dylai'r broses o uno cynghorau gael ei chwblhau erbyn 2017-18.

Dywedodd y gweinidog ei fod yn "hyderus" bod y model cenedlaethol o weithio rhanbarthol - sy'n cael eu datblygu yn sgil derbyn un o argymhellion Robert Hill yn ei adolygiad o ddarparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol - yn un a fydd "yn cyflawni".

Ymysg y cwestiynau eraill a drafodwyd, yr oedd ymgyrch Blas am Oes a darpariaeth anghenion addysgol arbennig.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.