Ymateb i’r llifogydd a’r difrod stormydd diweddar

Cymorth

Mae cynlluniau ar y gweill i amddiffyn trefi ar lan y môr yng Nghymru rhag y llanw uchel nesaf, meddai'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru, Alun Davies.

Daeth y sylw wrth iddo siarad â'r Pwyllgor Amgylchedd ar 23 Ionawr 2014 am y llifogydd diweddar.

Roedd e'n ateb y pryder a fynegwyd gan yr aelod cynulliad Joyce Watson am yr ail lanw uchel a ddisgwylir i daro'r arfordir ar ddechrau Chwefror.

Cafodd nifer o ardaloedd arfordirol eu difrodi yn ystod y tywydd garw ar ddechrau'r flwyddyn.

Dywedodd Mr Davies: "Mae gennyf hyder llwyr yn y gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud, ac yn y gwaith sydd ar y gweill gan awdurdodau lleol, i deimlo ein bod yn gallu darparu'r sicrwydd a geisiwch, a bod y cynlluniau sydd ar waith yn ddigon cadarn i gadw pobl yn ddiogel a chadw cymunedau yn ddiogel. "

Ar ôl y stormydd ym mis Rhagfyr ac Ionawr gofynnodd y Llywodraeth i bob awdurdod a effeithiwyd am adroddiadau dechreuol o'r difrod i seilwaith amddiffyn yr arfordir ac asedau glan môr eraill, ac amcangyfrifon o'r costau.

Dywedodd y gweinidog ei fod, ar ôl clywed yr amcangyfrifon, wedi sicrhau y rhoddir £2 filiwn yn arian ychwanegol i gyllido'r gwaith atgyweirio brys.

Yn ôl y gweinidog, ymddengys fod amddiffynfeydd arfordirol Cymru wedi perfformio'n dda ar y cyfan, gan ddiogelu miloedd o gartrefi a busnesau. Cafwyd difrod i rai strwythurau ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn gweithio, meddai.

Watch this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.