Pwyllgor Amgylchedd: Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cymorth

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies AC, wedi amddiffyn ei benderfyniad i drosglwyddo 15% o gyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin o Golofn 1 (taliadau uniongyrchol i ffermwyr ) i Golofn 2 (y Rhaglen Datblygu Gwledig) ar gyfer 2014-2020.

Dywedodd Mr Davies wrth y Pwyllgor Amgylchedd mai'r angen i dargedu gwelliannau yn y diwydiant amaeth yw un o'i brif resymau dros drosglwyddo 15%, sef yr uchafswm a ganiateir, o gyllideb Colofn 1 i Golofn 2.

Un o brif amcanion y Rhaglen Datblygu Gwledig, meddai, fydd gwneud y diwydiant yn gadarnach a mwy cystadleuol, i feithrin sgiliau a gwybodaeth ac ychwanegu at werth cynnyrch.

Ond fe wnaeth y Ceidwadwr Antoinette Sandbach gyhuddo'r gweinidog o roi ffermwyr mewn sefyllfa lle maent yn "ansicr a ydynt yn gallu buddsoddi yn eu ffermydd".

Dywedodd hefyd bod penderfyniad y gweinidog yn golygu bod ffermydd yng Nghymru "yn llai cystadleuol gyda rhannau eraill o'r DU".

Fe wnaeth Llyr Gruffydd o Blaid Cymru hefyd fynegi pryder y bydd toriad o 15% yn y gyllideb ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael effeithiau difrifol ar hyfywedd a chystadleurwydd y diwydiant.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru tua 16,000 o ffermwyr sy'n derbyn taliadau Colofn 1. Fe fydd y trefniadau newydd i Golofn 1 yn cael eu cyflwyno o 2015 ymlaen.

Watch this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.