Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid

Cymorth

Atebodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, gwestiynau gan aelodau ar 22 Ionawr, 2014.

Gofynnodd yr aelod Ceidwadol, Mark Isherwood, beth oedd y gweinidog yn ei wneud ynghylch tlodi tanwydd.

Atebodd y gweinidog mai "effeithiolrwydd ynni cartrefi yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol o drechi tlodi tanwydd."

Cododd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru ei bryderon fod pobl yn gweithio'n hirach a bod "incwm yn mynd i lawr" er bod diweithdra wedi gostwng,

Ymatebodd Ms Hutt fod Cymru yn perfformio'n well na gweddill y DU yn nhermau cyflogi'r ieuenctid ond fod "angen i ni wneud yn siŵr fod pob llinyn Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi" yn gweithio.

Holwyd y gweinidog, ymhlith eraill, ynghylch y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a pha gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at sefydlu Trysorlys i Gymru.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.