Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Yn ystod y cwestiynau i'r prif weinidog Carwyn Jones, codwyd sylwadau crwner y gallai dyn fu farw ar ôl aros dros 40 munud am ambiwlans wedi byw, os byddai'r gwasanaethau brys wedi ei gyrraedd yn gynt.

Bu farw Fred Pring, 74, yn ei gartref ym Mynydd Isa yn Sir Fflint ar Fawrth 21, 2013, wedi i'w wraig wneud cyfres o alwadau 999.

Cytunodd y Prif Weinidog ag haeriad arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood "na ddylai hyn fyth ddigwydd yn ein gwlad".

Gofynnwyd dau gwestiwn brys, y naill gan Janet Finch Saunders (Aberconwy), am oblygiadau argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Roedd y llall gan Antoinette Sandbach (gogledd Cymru) ar atal dros dro lawdriniaethau nad ydynt yn frys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yna fe wnaeth Arweinydd y Tŷ Lesley Griffiths, ymateb i geisiadau am ddadleuon a datganiadau gan aelodau.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.