ACau yn galw am gyfamod yn y ddadl rygbi

Cymorth

Galwodd Aelodau Cynulliad o bob plaid ar i Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau ddod i gytundeb buan er budd rygbi Cymru ar 15 Ionawr 2014.

Rhybuddiodd y Democrat Rhyddfrydol Peter Black fod peryg i Gymru fod yn "destun chwerthin" pe na bai'r ddadl ariannol yn cael ei datrys yn fuan.

Mae'r anghytuno parhaus ar lefel uchaf y gêm yn niweidiol wrth hyrwyddo llwyddiant rhyngwladol y tîm cenedlaethol yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies.

Fe wnaeth Bethan Jenkins AC alw am adolygiad llywodraethol yn dilyn yr anghytuno wrth iddi bwysleisio pwysigrwydd gwneud ariannu rygbi yn "agored a thryloyw".

Tra'i fod yn gwerthfawrogi fod gan y ddwy ochr yr un uchelgais wrth wraidd eu dadleuon, galwodd y Gweinidog Chwaraeon Jeff Cuthbert am "gyfaddawd buan... er budd y gêm."

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.