Cwestiwn brys i'r gweinidog iechyd

Cymorth

Gofynnodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, gwestiwn brys yn y Senedd yn dilyn atal ymgynghorydd o Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r Athro David Paul Berry wedi cael ei wahardd o'i waith ers mis Ionawr yn dilyn wyth marwolaeth y "gellid fod wedi eu hosgoi".

Gofynnodd Kirsty Williams: "Yn dilyn atal ymgynghorydd o Ysbyty Athrofaol Cymru, a wnaiff y Gweinidog Iechyd ddatganiad ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yn y GIG?"

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Mae unrhyw farwolaeth y gellir ei hosgoi yn y gwasanaeth iechyd yn fater o ofid dwys.

"Mae'n rhaid i bob sefydliad gael systemau llywodraethu clinigol cadarn ar waith i archwilio canlyniadau cleifion fel mater o drefn a gweithredu ar unwaith os oes pryderon yn codi.

"Ataliwyd llawfeddyg yn Ysbyty Athrofaol Cymru o ganlyniad i broses o'r fath".

Dywedodd y gweinidog "nad oedd data y Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg wedi chwarae unrhyw ran o gwbl wrth adnabod y llawfeddyg arbennig " a bod y pryderon wedi dod i'r amlwg "o ganlyniad i broses archwilio clinigol mewnol y bwrdd iechyd lleol ei hun".

Anogodd y Ceidwadwyr Darren Millar y gweinidog i weithredu ar yr alwad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i gynnal adolygiad o holl ysbytai Cymru i fynd i'r afael â phryder am safonau gofal yn y GIG.

Gwrthododd y gweinidog yr angen am adolygiad o'r fath ac atgoffodd ef yr ACau bod " y mater hwn wedi dod i'r amlwg heb unrhyw adolygiad allanol" .

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.