Llywodraeth Cymru yn 'gwastraffu arian cyhoeddus'

Cymorth

Mae tuedd sy'n peri pryder ynglyn â gwendidau mewn rheolaeth a gwastraff o arian cyhoeddus o fewn llywodraeth Cymru, yn ôl ACau Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd AC Gogledd Cymru Aled Roberts yn arwain dadl ar adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), ar 11 Rhagfyr 2013.

Yn ôl Aled Roberts mae nifer o adroddiadau a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at "broblemau mawr" a "methiannau difrifol" gyda rheoli cyllid grant y llywodraeth.

Rhestrodd Mr Roberts "fethiannau sylweddol" o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA); Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.

Fe wnaeth AC Gorllewin De Cymru Peter Black hefyd feirniadu'r llywodraeth ar AWEMA, oedd wedi derbyn mwy na £7m o arian cyhoeddus, a dywedodd nad oedd modd ymddiried yn Llafur i "ymddwyn yn gyfrifol gydag arian y llywodraeth".

Croesawodd AC y Ceidwadwyr Darren Millar y ddadl a galwodd ar y llywodraeth i adolygu'r cyllid y mae'n ei ddarparu i gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill Cymru.

Serch hynny, fe wnaeth AC Llafur Jenny Rathbone ddweud bod gwallau yn nadl y Democratiaid Rhyddfrydol, gan ddadlau bod y llywodraeth wedi gwella y ffordd y mae'n rheoli grantiau.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.