Dadl Plaid Cymru: 'Diwygiwch y strategaeth yn erbyn tlodi'

Cymorth

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi galw ar lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi "yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw".

Roedd yn arwain dadl, ar 11 Rhagfyr 2013, ar y cynnydd mewn prisiau ynni.

Fe wnaeth y Democrat Rhyddfrydol Peter Black groesawu bod economi'r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.

Dywedodd y Ceidwadwr Mark Isherwood ei fod yn croesawu'r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, ond yn ei fod hefyd yn "cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i fynd o hyd o'i gymharu â gweddill y DU".

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.