Galw am fwy o bwyslais ar y celfyddydau

Cymorth

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw am fwy o bwyslais gan lywodraeth Cymru ar y celfyddydau yng Nghymru.

Bu AC y Ceidwadwyr Suzy Davies yn arwain y ddadl ar bwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru, ar 11 Rhagfyr 2013.

Yn ôl Ms Davies mae llywodraeth Cymru wedi methu â chynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Pwysleisiodd y Ceidwadwr "bwysigrwydd cynhenid ​​y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles personol dinasyddion".

Bu Suzy Davies hefyd yn galw ar y llywodraeth i ddiogelu cyllid ar gyfer y celfyddydau o fewn y cyllidebau llywodraeth leol ac addysg.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Bethan Jenkins amlinellu pwysigrwydd y celfyddydau wrth hybu defnydd y Gymraeg.

Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black hefyd annog y llywodraeth i weithio gydag amgueddfeydd ac orielau i sicrhau y gall eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yn cael ei fenthyg i gyfleusterau eraill ar draws Cymru.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.