'Rhaid i safonau wella' meddai Huw Lewis

Cymorth

"Gallwn wneud hyn" oedd y neges gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis ar 3 Rhagfyr 2013.

Wrth ateb cwestiwn brys ar ganlyniadau PISA, dywedodd Mr Lewis fod gweldydd eraill "wedi dangos eu bod yn gallu gwella canlyniadau" ac y gallwn ni yng Nghymru wneud hynny hefyd.

Gofynnwyd y cwestiwn brys gan yr aelod Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts yn dilyn cyhoeddiad canlyniadau PISA heddiw lle dangosodd yr astudiaeth rhyngwladol fod Cymru yn ar ei hôl hi o hyd o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Cymerwyd y profion darllen, mathemateg a gwyddoniaeth gan 500,000 o blant 15 mlwydd oed mewn 65 o wledydd a cafwyd eu cyhoeddi gan y Mudiad er Cydweithredu Economaidd a Datblygu (OECD).

Dywedodd Mr Lewis fod "yn rhaid i bawb edrych ar eu hunain yn y drych yn ofalus" a bod yn rhaid i safonau wella.

Dywedodd Aled Roberts fod hyn yn "fater tymor hir" ond bod yr argraff yn cael ei rhoi fod gwellianau yn eu lle ond bod "nifer o arweinwyr ddim yn eu lle" yn y consortia addysg rhanbarthol a bod y rheini sydd yn eu lle "heb brofiad o arweinyddiaeth uwch yn ein hysgolion."

Atebodd y gweinidog ei fod wedi "ymateb yn gyflym ac yn benderfynol" a'i fod yn fodlon, erbyn Ebrill y flwyddyn nesaf, "y bydd gennym system consortiwm gweithredol, effeithlon a fydd yn ddealladwy i bob cornel o Gymru."

Yn ogystal â hyn cyhuddodd y gweinidog y pleidiau eraill o gytuno â polisiau Llafur ar addysg heb gynnig datrysiad.

Ymatebodd yr aelod Plaid Cymru, Simon Thomas, mai'r broblem oedd cyflawni'r polisi ac nid y polisi ei hun a gofynnodd wrth Mr Lewis "beth sydd wedi mynd o'i le ers datganoli?"

Dywedodd Mr Lewis nad oedd wedi ei "frawychu na'i ddychryn."

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.