Cyllid: Gwaharddiadau yn y diwydiant adeiladu

Cymorth

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau i geisio sicrhau iawndal ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt gan waharddiadau yn y diwydiant adeiladu, mae'r Gweinidog Cyllid wedi dweud.

Dywedodd Jane Hutt ar 27 Tachwedd 2013 bod mwy na 110 o'r 3,000 o bobl ar y rhestr ddu a luniwyd gan gwmni ymgynghori yn Gymry.

Wrth ateb cwestiynau ar gyllid yn y siambr dywedodd bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu yn bersonol at dri chwmni sy'n rhan o'r prosiect Crossrail lle'r oedd pryderon penodol i geisio sicrwydd eu bod yn gwrthod yr arfer.

Mae pob un wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn condemnio'r arfer, meddai.

A dywedodd Ms Hutt bod y llywodraeth yn adolygu eu cyflenwyr mawr eu hunain i sicrhau nad ydynt yn cymryd rhan yn yr arfer mewn unrhyw ffordd.

Dywedodd Mick Antoniw, AC Llafur, bod y rhai y mae eu bywydau wedi cael eu "difetha" drwy gael eu cynnwys ar y rhestr a ddosbarthwyd i lawer o gwmnïau adeiladu mawr yn haeddu iawndal.

Cytunodd Ms Hutt fod gan yr arfer effeithiau "ofnadwy".

Dywedodd, "rwy'n gweithio gyda'r undebau i asesu'r cynllun iawndal sydd wedi'i gynnig gan wyth cwmni".

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.