Pwyllgor cyllid: Cyllido addysg uwch

Cymorth

Mae prifysgolion yn Lloegr yn cymryd mantais o wahaniaeth yn y rheolau er mwyn denu mwy o fyfyrwyr galluog o gefndiroedd difreintiedig ar draws y ffin.

Daeth yr honiad gan y corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn ystod sesiwn graffu y Pwyllgor Cyllid ar gyllido addysg uwch ar 27 Tachwedd 2013.

Gyda chwrs prifysgol yn costio miloedd o bunnoedd mae'r gystadleuaeth rhwng sefydliadau yn gallu bod yn ffyrnig.

Mae 'na uchafswm ar y nifer o fyfyrwyr mae pob prifysgol yn derbyn bob blwyddyn. Ond yn Lloegr, yn wahanol i Gymru, does dim cyfyngiad ar y niferoedd sy'n derbyn y graddau lefel A uchaf.

Yr honiad yw bod sefydliadau yn Lloegr, dan bwysau i gynnig mwy o lefydd i'r sawl o gefndiroedd difreintiedig, yn hoelio'u sylw ar ardaloedd o Gymru.

Mae myfyrwyr difreintiedig ond disglair o'r fath yn aur pur i brifysgolion yn Lloegr, yn ôl David Blaney o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.