'Model Ysbyty Arrowe Park yn ddigonol yn y tymor byr" yn ôl y Prif Weinidog

Cymorth

"Mae model Ysbyty Arrowe Park yn ddigonol yn y tymor byr" yn ôl y Prif Weinidog ar 12 Tachwedd 2013.

Roedd Carwyn Jones yn gwneud datganiad ar wasanaethau newydd enedigol yng ngogledd Cymru ac roedd yn cyfeirio at adolygiad y comisiynodd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Dywedodd Mr Jones fod yr "adolygiad yn cydnabod model a all ddarparu gwasanaethau newydd enedigol i ogledd Cymru yn unig, ond yn unol â staffio a phroblemau ariannol gall hyn gymryd hyd at 10 mlynedd. Nid yw hyn yn opsiwn ar hyn o bryd."

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'n "cymryd penderfyniadau ar leoliad Canolfan Triniaeth newydd enedigol rhanbarthol" a fyddai'n golygu cadw'r driniaeth yng Nghymru.

Dywedodd y byddai'n sefydlu panel annibynnol i weithio gyda'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i "argymell safle ar gyfer y ganolfan."

Dywedodd yr aelod Plaid Cymru Llŷr Gruffydd, fod yr adolygiad yn "ddamniol o ddiffyg buddsoddiad".

Ychwanegodd Mr Gruffydd bod "cynlluniau'r llywodraeth Lafur yn golygu yr anfonir ein babanod mwyaf bregus i'r GIG yn Lloegr, a feirniadwyd gymaint gan y Prif Weinidog."

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.