GIG 'yn barod ar gyfer y gaeaf'

Cymorth

Mae gwasanaethau iechyd yn cydlynu eu hymdrechion i fod yn barod ar gyfer y gaeaf, dywedodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford ar 12 Tachwedd 2013.

Dywedodd Elin Jones ar ran Plaid Cymru eu bod yn gresynu at y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau orthopedig yn ardal Hywel Dda.

Ychwanegodd eu bod yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau.

Galwodd y Ceidwadwr Darren Millar ar lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru, a cytuno bod cynlluniau o'r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams eu bod yn gresynu at gynlluniau arfaethedig Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i ohirio'r holl lawdriniaethau orthopedig dewisol dros y gaeaf.

Galwodd ar lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob bwrdd iechyd lleol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.