Cyllido busnesau bach a chanolig

Cymorth

Fe gafodd ail ran adolygiad annibynnol i gyllido busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru ei gyhoeddi gan y gweinidog economi Edwina Hart ar 12 Tachwedd 2013.

Mae adroddiad yr adolygiad yn canolbwyntio ar ba mor hawdd yw hi i BBaCh gael benthyciadau.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan yr Athro Dylan Jones-Evans, arbenigwr busnes ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a chyn ymgeisydd Ceidwadol i'r Cynulliad.

Cafodd rhan gyntaf yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Yn yr ail ran, mae'n canolbwyntio ar ffynonellau eraill o gyllid sydd ar gael i'r busnesau dan sylw ar wahân i fanciau'r stryd fawr.

Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o Cyllid Cymru, sef banc buddsoddi Llywodraeth Cymru.

Wrth gyflwyno'r adroddiad yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Ms Hart: "Wrth iddo gynnal yr adolygiad hwn mae'r athro wedi trafod yn helaeth â chyrff ac unigolion gan holi am farn pobl ar draws y sector bancio a sefydliadau ariannol eraill, cyfryngwyr, y byd academaidd a'r gymuned fusnes ehangach.

"Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at yr heriau pwysig sy'n bodoli i'r sector preifat a'r llywodraeth - heriau y bydd angen eu hystyried yn llawn ac yn drylwyr.

"Bydd angen ystyried ymhellach holl argymhellion yr athro a bydd cyfnod ymgynghori byr yn agor nawr at y diben hwnnw.

"Yn ystod y cyfnod hwn bydd yn ymgynghori â nifer o bartneriaid cymdeithasol megis yr undebau llafur a Commerce Cymru.

"Galwaf hefyd ar y gymuned fusnes, BBaCh, buddsoddwyr, sefydliadau ariannol, cyfryngwyr a chyrff sy'n aelodau i ddod ymlaen â'u syniadau er mwyn helpu i ysgogi datblygiad yn y maes pwysig hwn."

Bydd y cyfnod ymgynghori ar yr adroddiad yn dechrau yn syth ac yn dod i ben ar Ragfyr 6.

Watch this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.