'Is-rannu dryslyd o asedau' mewn llywodraeth Cymru

Cymorth

Mae adroddiad pwyllgor wedi datgelu bod yna "is-rannu dryslyd o asedau" mewn llywodraeth Cymru.

Roedd aelod y pwyllgor cyllid Paul Davies AC yn arwain dadl ar adroddiad y pwyllgor ar reoli asedau yn y sector cyhoeddus, ar 6 Tachwedd 2013.

Yn ôl Mr Davies, mae'r adroddiad yn awgrymu bod gweinidogion yn euog o fethu i gydweithio gydag adrannau eraill o ran rheoli asedau.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos nad yw'r cyngor yn cael ei ddilyn bob amser, a bod data anghyson yn gwneud monitro effeithiol bron yn amhosibl.

Mae 14 o argymhellion wedi cael eu cyhoeddi, gan gynnwys yr angen i godi proffil rheoli asedau, ac i annog llywodraeth leol lunio cynlluniau rheoli asedau.

Croesawodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yr adroddiad a dywedodd ei bod yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.