Llwybrau bysiau o dan fygythiad i ddod yn llwybrau strategol

Cymorth

Gallai llwybrau bysiau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sydd o dan fygythiad ddod yn "llwybrau bws cenedlaethol strategol", yn ôl y gweinidog economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth ar 6 Tachwedd 2013.

Mewn ymateb i gwestiynau ar ei phortffolio, dywedodd Edwina Hart AC ei bod "o blaid symud ymlaen gyda rhai llwybrau bysiau strategol."

Yn Hydref 2013, cyhoeddodd Bysiau Arriva Cymru gallai depo Aberystwyth a gorsafoedd bws yng Nghei Newydd, Llanbedr Pont Steffan a Dolgellau gau ym mis Rhagfyr.

Byddai hynny'n golygu canslo bysus 20, 40, 40C, 50, 585 a X94 ar yr un pryd.

Dywedodd Ms Hart: "Byddai'n gofyn i swyddogion i gyflwyno cynigion i'w gwneud nhw'n llwybrau bws strategol."

Bu'r gweinidog hefyd yn ateb cwestiynau ynghylch y diwydiant twristiaeth, caffael yn y sector cyhoeddus a materion yn ymwneud â busnesau bach.

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.