Prif weinidog i wthio am holl argymhellion y Comisiwn Silk

Cymorth

Dywedodd y prif weinidog byddai llywodraeth Cymru yn parhau i wthio llywodraeth y DU i dderbyn holl argymhellion Comisiwn Silk.

Bu Carwyn Jones yn gwneud datganiad ar y comisiwn Silk ar 5 Tachwedd 2013, yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth y DU ar ddydd Gwener y byddai'n datganoli pwerau benthyca a rhai trethu i'r Cynulliad.

Dywedodd Mr Jones: "Mae'n bwysig cydnabod, er bod datganiad yr wythnos diwethaf yn arwydd pwysig o fwriad llywodraeth y DU, nid oedd yn ymateb manwl i bob un o argymhellion y Comisiwn Silk.

"Ar ôl aros am gyhoeddiad cadarnhaol iawn yr wythnos diwethaf, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm a gweld ymateb llawn Llywodraeth y DU o fewn yr ychydig wythnosau nesaf," ychwanegodd.

Mae disgwyl y bydd llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymateb llawn i Ran 1 y Comisiwn Silk o fewn yr wythnosau nesaf.

Ychwanegodd y prif weinidog bod "y cyhoeddiad yn newyddion da i Gymru, ond yr oedd hefyd, rwy'n credu, yn newyddion da i bawb ohonom sydd am weld datganoli yn ffynnu o fewn DU cryfach."

Croesawodd Andrew RT Davies AC, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, datganiad y prif weinidog a dirprwy brif weinidog.

Ailadroddodd Mr Davies cefnogaeth ei blaid dros bleidlais 'ie' mewn refferendwm posibl ar ddatganoli treth incwm.

Dywedodd Leanne Wood AC, arweinydd Plaid Cymru, bod ei phlaid "yn gweld hyn fel cyfle gwych i ddechrau ar y broses o gymryd cyfrifoldeb a gwella economi Cymru."

Dywedodd Ms Wood bod ei phlaid am weld "y gweithrediad llawn o Silk Rhan 1."

Croesawodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig , y consensws trawsbleidiol ym Mae Caerdydd a wnaeth arwain at gyhoeddiad llywodraeth y DU.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.