Cydweithio ag Archesgob Cymru i rybuddio am fenthyciadau diwrnod cyflog

Cymorth

Bydd y Gweinidog Cymunedau Jeff Cuthbert yn cydweithio gydag Archesgob Cymru Dr Barry Morgan i rybuddio pobl am fenthyciadau diwrnod cyflog.

Bu Aelodau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol Cymunedau, Cydraddoldeb yn craffu ar y gweinidog ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2014-2015, ar 24 Hydref 2013.

Fe wnaeth Jeff Cuthbert addo y byddai'n " gwneud mwy " i rybuddio pobl am beryglon benthyg gan fenthycwyr diwrnod cyflog llog uchel.

Cyhoeddodd Mr Cuthbert y bydd yn cwrdd â'r Archesgob Cymru Barry Morgan i drafod y problemau hyn ac y byddai'n anelu i hyrwyddo undebau credyd fel dewis arall yn lle benthyciadau diwrnod cyflog.

Mae undebau credyd yn cynnig ffordd gyfleus o gynilo a'r cyfle i gael benthyciadau cost isel.

Ym mis Gorffennaf 2013, fe wnaeth Archesgob Caergaint addo rhoi terfyn ar gwmniau sy'n cynnig benthyciadau diwrnod cyflog drwy ddefnyddio'r Eglwys i adeiladu rhwydwaith o undebau credyd.

Dywedodd y gweinidog: "Mae'r cwmniau'n bodoli oherwydd ein cyflwr economaidd presennol a byddwn yn gwneud ein gorau glas i egluro peryglon y cwmnïau hyn."

Ychwanegodd: "Mae gen i gyfarfod gyda Barry Morgan lle byddwn yn gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru a hyrwyddo undebau credyd."

Bu'r ACau hefyd yn craffu'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths a'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt.

Cyhoeddodd John Griffiths y byddai Cyngor Llyfrau Cymru yn derbyn £300,000 yn llai yn ei gyllid dros ddwy flynedd.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.