Bylchau cyrhaeddiad mewn addysg yn dal grwpiau gwahanol o blant yn ôl

Cymorth

Mae ACau y Ceidwadwyr yn mynny bod bylchau cyrhaeddiad mewn addysg yng Nghymru yn dal grwpiau gwahanol o blant yn ôl.

Bu AC Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Angela Burns yn arwain dadl ar addysg yng Nghymru, ar 23 Hydref 2013.

Yn ol yr AC mae tystiolaeth yn dangos bod plant nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn yn aml yn teimlo wedi'u difreintio, a gall hyn arwain at broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd.

Dywedodd Angela Burns fod y gwanhaniaeth mewn addysg gynradd ac uwchradd yn fawr yn enwedig yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd o ran datblygiad plentyn.

Galwodd Ms Burns ar y llywodraeth i gyflwyno strategaeth gadarn a phenodol i blant rhwng 8-14 oed , i sicrhau nad oes tarfu ar ddysgu yn ystod y cyfnod hwn.

Cytunodd Llefarydd Addysg Plaid Cymru Simon Thomas gyda'r cynnig ac awgrymodd fod angen gwella'r bwlch rhwng cyrhaeddiad ac amddifadedd.

Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts hefyd alw ar y llywodraeth i ddiwygio system bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol yng nghyd-destun perfformiad disgyblion unigol.

Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis fod y llywodraeth wedi dechrau lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Yn ôl y gweinidog mae'r llywodraeth wedi darparu "technoleg newydd mewn ardaloedd difreintiedig" yn ogystal â dyblu'r cyllid ar gyfer Grant Amddifadedd Disgyblion.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.