Adrosddiad yn galw ar lywodraeth Cymru i wella addasiadau yn y cartref

Cymorth

Bydd y fideo ar gyfer yr eitem hon yn ymddangos yma.

Mae adroddiad y pwyllgor yn galw ar lywodraeth Cymru i wella addasiadau yn y cartref fel y gall pobl fyw yn fwy annibynnol yn eu cartrefi.

Bu Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Christine Chapman yn arwain dadl ar adroddiad i addasiadau'r cartref, ar 23 Hydref 2013.

Bu'r ymchwiliad yn ystyried os oedd gwasanaethau wedi gwella ac a oedd y llywodraeth yn monitro darpariaeth gwasanaethau addasu mewn ffordd effeithiol.

Fe wnaeth yr ACau hefyd ystyried beth arall sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau addasu cartref yng Nghymru

Dywedodd Mark Isherwood AC bod y pwyllgor wedi gwrando ar dystiolaeth sy'n awgrymu nad oedd y gwasanaethau wedi gwella'n ddigon cyflym a bod na ddiffyg cysondeb ar draws Cymru.

Pwysleisiodd Mr Isherwood fod angen i'r unigolyn fod yn ganolog i'r system a galwodd ar y llywodraeth i annog asesiadau dilynol, yn ogystal â "gwella cyfathrebu rhwng gwasanaethau".

Croesawodd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru ymrwymiad y llywodraeth i dderbyn y mwyafrif o'r argymhellion, ond mynegodd ei siom bod tri ohonynt wedi'u eu gwrthod.

Yn ôl Mr Thomas mae na ddiffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau cymdeithasol a'r sector iechyd a bod hyn wedi bod yn wir ers degawd.

Galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black hefyd ar y llywodraeth i ymyrryd ag awdurdodau lleol er mwyn " gwneud gwahaniaeth".

Wrth ymateb i'r ddadl cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant bod angen gwneud gwelliannau.

Daeth i'r casgliad nad oedd gwasanaethau yn "digon da" a bod "rhywbeth sylfaenol o'i le" gyda chyllido'r system.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.