Cyllideb yn adlewyrchu Adroddiad Francis medd Drakeford

Cymorth

Mae cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r gwersi sydd i'w dysgu o Adolygiad Adroddiad Francis, meddai'r gweinidog iechyd Mark Drakeford.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wrth i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15.

Dywedodd ei fod yn cydnabod y baich ychwanegol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, a'i fod yn awyddus i sicrhau bod ansawdd gofal a materion diogelwch y claf yn cydbwyso'n briodol â'r cyllidebau sy'n eu cynnal.

Mae hynny wedi llywio cynigion y gyllideb, meddai, a dyna pam eu bod wedi rhoi cyllid ychwanegol o £180m yn 2014-15 a £240m yn 2015-16 i gefnogi'r GIG yng Nghymru.

Ychwanegodd y gweinidog fod "hon yn gyllideb mewn cyfnod o galedi, ond rwy'n hyderus y bydd y blaenoriaethau yn y rhaglen lywodraethu yn cael eu bodloni."

Fodd bynnag, gallai'r uchafswm o £50 yr wythnos i dalu am ofal cartref gael ei godi, meddai llywodraeth Cymru.

Cafodd y cap ar daliadau am ofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol di-breswyl eraill eu gyflwyno yng Nghymru yn 2011.

Pan gafodd ei holi ynghylch a yw'n parhau'n fforddiadwy, dywedodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol Gwenda Thomas y byddai'n cyflwyno ymgynghoriad yn y dyfodol agos ynghylch a ddylid ei godi.

Awgrymodd Rebecca Evans, AC Llafur, fod cynghorau yn wynebu diffyg o £2m o ran talu am y polisi.

Ond dywedodd Mrs Thomas bod y llywodraeth wedi rhoi £3m yn ychwanegol iddynt y flwyddyn nesaf ar ben y £ 10m a ddyrannwyd eisoes i'r polisi.

Fodd bynnag, dywedodd y byddai'n rhaid iddi ystyried ar a allai'r cap gael ei gadw yn £50 yr wythnos.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.