'Dim angen ymgynghoriad tebyg i adolygiad Keogh'

Cymorth

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wfftio galwadau'r wrthblaid am ymgynghoriad tebyg i adolygiad Keogh, yng Nghymru.

Bu'r gweinidog yn ateb cwestiynau'r aelodau, ar 16 Hydref 2013.

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, fe allai adolygiad yn debyg i un Keogh ychwanegu gwerth i fyrddau iechyd lleol ar draws Cymru.

Yn Lloegr, cafodd pedwar ar ddeg o ymddiriedolaethau'r GIG eu harchwilio fel rhan o adolygiad o gyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r disgwyl mewn ysbytai.

Mynnodd Mark Drakeford nad oedd adolygiad megis Keogh yn "angenrheidiol neu'n proffidiol" yng Nghymru gan fod "camau diogelu sylweddol" yn eu lle.

Mynegodd Darren Millar ei siom a gofynnodd i'r gweinidog i ailystyried ei safbwynt.

Wrth ymateb i Mr Millar, dywedodd fod gan y llywodraeth y mecanweithiau cywir ac y byddai ymchwiliad yn tynnu'r sylw oddi ar yr hyn sy'n bwysig yng Nghymru.

Bu'r gweinidog hefyd yn ateb cwestiynau ar iechyd y geg, amseroedd aros yng ngogledd Cymru ac ysmygu mewn ceir.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.