Fe allai gwasanaethau cyhoeddus fethu, yn ôl CLlLC

Cymorth

Os yw toriadau ariannol yn parhau ynabydd gwasanaethau cyhoeddus yn methu, yn ôl aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC ).

Bu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a yn gwrando ar dystiolaeth ar y cynnydd o ran cydweithio mewn llywodraeth leol ar 10 Hydref 2013.

Rhybuddiodd Prif Weithredwr CLlLC Steve Thomas os yw'r caledi yn parhau yna bydd yna "amheuon difrifol ".

Cododd AC Llafur Gwyn Price bryderon am rai awdurdodau lleol yng ngorllewin Lloegr sy'n wynebu methdaliad a gofynnodd pa mor debygol yw y gallai hynny ddigwydd yng Nghymru.

Pwysleisiodd Mr Thomas nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru ar fin "cwympo " yn y ddwy flynedd nesaf, ond rhybuddiodd y byddai " hyd y broses toriadau yn arbrawf i hyfywedd llywodraeth leol" .

Ychwanegodd : "Os bydd y sefyllfa economaidd yn parhau yna bydd gwasanaethau yn methu. "

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Joe Simpson, awdur yr adroddiad ar ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol , a oedd yn cydnabod nad oedd cydweithredu llywodraeth leol "yn gweithio i Gymru ar hyn o bryd ".

Dywedodd Mr Simpson bod y cynnydd wedi bod yn "araf " a phwysleisiodd fod angen gwella rôl y "cynghorydd " ar lawr gwlad.

Dadleuodd nad cydweithredu llywodraeth leol oedd yr ateb i'r holl broblem ac awgrymodd y dylai cynghorwyr llawr gwlad gael mwy o " rôl gymunedol ".

Bu ACau hefyd yn gwrando ar dystiolaeth gan gynghorwyr o Sir Gaerfyrddin , Ceredigion , Conwy a Sir Benfro .

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.