Canolfan ganser newydd gydag arian a fenthycwyd

Cymorth

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt Gweinidog wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu canolfan ganser newydd yn Ymddiriedolaeth Iechyd Felindre gydag arian a fenthycwyd.

Bu ACau yn craffu'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2014/15.

Dywedodd Ms Hutt : "Felindre fydd y prosiect cyntaf y byddwn yn buddsoddi ynddo... mae hwn yn ffordd newydd arloesol o wario ar ysbytai."

Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y bydd y ganolfan ganser newydd yn costio tua £200m "i sicrhau bod cleifion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i dderbyn y gofal gorau a thriniaethau canser ".

Yn ôl y gweinidog, ni fyddai'r corff yn gwneud elw. Fe fyddai'n benthyg yr arian ei hun i dalu am y ganolfan.

Dyma'r tro cyntaf y byddai ysbyty yng Nghymru wedi cael ei adeiladu fel hyn - drwy fenthyca i adeiladu yn hytrach nag ariannu drwy gyllidebau cyfalaf confensiynol.

Mae'r gyllideb ddrafft gyffredinol gwerth tua £15 biliwn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y prif feysydd o fuddsoddiad yw:

*Cynnydd i gyllideb iechyd gyda phecyn o dair blynedd o £570m ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, gyda £150m yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol

*Mwy na £600m tuag at brosiectau mawr i hybu'r economi

* Mwy o wariant ar ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf

* Mwy o arian ar gyfer presgripsiynau rhad ac am ddim, brecwast ysgol a llaeth am ddim, nofio am ddim a thocynnau teithio rhatach

* £11m yn ychwanegol i ddyblu nifer y plant sy'n elwa ar ofal plant am ddim a chymorth rhianta drwy'r cynllun Dechrau'n Deg erbyn 2016.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.