"Arwyddion fod yr economi wedi dechrau gwella"

Cymorth

Mae "arwyddion fod yr economi wedi dechrau gwella" yn ôl y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar 8 Hydref 2013.

Roedd Ms Hutt yn gwneud datganiad ar y Gyllideb Ddrafft 2014-15 pan ddywedodd fod "amddiffyn y GIG ac ysgolion, hybu twf economaidd a chreu swyddi, yn ogystal â threchu tlodi ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed, wrth wraidd blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15."

Dywedodd Ms Hutt y bydd gwariant y GIG yn codi o £5.722 biliwn i £5.927 biliwn flwyddyn nesaf - codiad o 3.58% ar ôl cymryd chwyddiant mewn i ystyriaeth neu 1.68% mewn termau real.

Yn ôl Ms Hutt bydd yr arian ychwanegol yn helpu'r GIG i ymateb i ddarganfyddiadau ymchwiliad Francis.

Ychwanegodd y byddau'r pwysau ar y GIG yn "parhau i dyfu."

Hefyd, dywedodd y gweinidog y byddai gwariant llywodraeth leol yn gostwng o £4.648 biliwn eleni i £4.466 blwyddyn nesaf sef 5.81% yn nhermau real.

Beirniadodd yr aelod Ceidwadol Paul Davies Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol am wneud cytundeb gyda'r blaid Lafur cyn i'r wybodaeth ddod yn gyhoeddus gan ddweud "yn amlwg maent yn fodlon helpu i gynnal ffaeleddau'r llywodraeth Lafur."

Dywedodd yr aelod Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, ei fod yn falch iddynt sicrhau cytundeb cyn y cyhoeddiad gan ddweud ei fod wedi "caniatáu i gynigion y blaid gael eu craffu ynghyd a'r rheini gan Lywodraeth Cymru."

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.