Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cymorth

Cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ne Cymru oedd prif ffocws y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar 3 Hydref 2013.

Yn ystod y cyfarfod, fe glywodd ACau dystiolaeth gan aelodau o'r Rhaglen De Cymru yn siarad am eu hymgynghoriad cyhoeddus i wasanaethau arbenigol ar draws pum bwrdd iechyd.

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddogfen bolisi 'Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru'

Roedd Rhaglen De Cymru yn rhan o'r ymateb gan y byrddau iechyd i greu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau cynaliadwy ac fe'i sefydlwyd ym mis Ionawr 2012.

Fe allai ysbytai yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, cymoedd y de-ddwyrain a Phowys gael eu heffeithio gan y cynigion ar draws pum bwrdd iechyd.

Mae byrddau iechyd yn ne Cymru a de Powys wedi bod yn gwerthuso a fyddai canolbwyntio holl wasanaethau arbenigol mewn pedwar neu bump o ganolfannau fod yn fwyaf addas.

Os caiff sêl bendith, fe allai llai o ysbytai yn y rhanbarth gynnig gwasanaethau arbenigol megis damweiniau ac achosion brys a gofal babis cynamserol.

Yn ôl swyddogion iechyd a gweinidogion mae angen newid i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cydfynd gyda safonau'r DU.

Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae'r rhaglen wedi derbyn 59,726 o ymatebion cyhoeddus trwy holiadur agored.

Dywedodd Andrew Goodhall, Prif Weithredwr Arweiniol Rhaglen De Cymru: "Rydym wedi ceisio mabwysiadu dull agored a thryloyw. Rydym wedi sicrhau bod y manylion ar gael i'r cyhoedd."

Mae'r Rhaglen De Cymru wedi cael ei feirniadu wrth i'r adroddiad terfynol gael ei oedi, fodd bynnag pwysleisiodd Mr Goodhall, "pan fyddwch yn derbyn ymatebion cyhoeddus, mae 60,000 yn cymryd llawer o amser i ystyried".

Disgwylir i benderfyniad, a oedd eisoes i fod ym mis Hydref, ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn ystod ail hanner y cyfarfod, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Ddeoniaeth Cymru a'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.