Dadl Democratiaid Rhyddfrydol

Cymorth

Bydd y fideo ar gyfer yr eitem hon yn ymddangos yma.

Mae diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, meddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth arwain dadl ar fand-eang yn Nghymru ar 2 Hydref 2013.

Mynegodd Eluned Parrott bryder bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU.

Honnodd hefyd bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.

Dywedodd y Ceidwadwr Antoinette Sandbach bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio'r stryd fawr.

Nododd hefyd bod y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.