'Angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol'

Cymorth

Mae angen brys i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru yn ôl Acau.

Bu Plaid Cymru yn arwain dadl ar 2 Hydref 2013.

Yn ôl llefarydd iechyd y blaid Elin Jones, mae'r gwasanaeth presennol yn "anghyson".

Fe wnaeth AC Ceredigion alw ar y llywodraeth i fynd ati ar unwaith i integreiddio gwasanaethau gofal yn well drwy gael gwared ar y "rhwystrau sefydliadol".

Galwodd Ms Jones ar lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r Mesur Lles (Cymru) i weithredu weithredu'r integreiddio.

Pwysleisiodd AC Plaid Cymru: "Mae angen newid sefydliadol, un newid, un gweithlu, un gyllideb."

Cytunodd AC y Ceidwadwyr William Powell fod angen gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth.

Fe wnaeth Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams hefyd alw ar y llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Hefyd yn cyfrannu at y ddadl, tanlinellodd Llyr Gruffydd AC yr angen i wella gwasanaethau a dyfynnodd Comisiynydd Pobl Hŷn Sarah Rochira a bwysleisiodd "yn syml, ni allwn fforddio peidio a chyflawni'r newidiadau hyn".

Croesawodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y ddadl a chyfaddefodd fod angen "gwneud mwy" i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sicrhaodd y gweinidog y byddai ymgynghoriad y llywodraeth yn mynd i'r afael â'r broblem a chadarnhaodd y byddai'r mesur yn cynnwys pwerau i sicrhau bod mwy o gydweithio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.