'Angen gwneud mwy' i gynyddu cyflenwad tai fforddiadwy

Cymorth

"Mae angen gwneud mwy" i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, yn ôl aelodau cymdeithasau tai.

Bu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gwrando ar dystiolaeth ar ei ymchwiliad i rwystrau i adeiladu cartref yng Nghymru, ar 26 Medi 2013.

Yn ôl Neil Barber, cyfarwyddwr datblygu Grŵp Seren, sy'n darparu tai a chefnogaeth, mae angen i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Pwysleisiodd Mr Barber fod gan Gymru y "gallu i wneud mwy", ond bod Cymru yn bell o gwrdd â'r galw presennol am dai fforddiadwy.

Yn ôl Mr Barber, er bod y gymdeithas tai yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o gynyddu'r cyflenwad, mae'r amser mae'n ei gymryd i gael caniatâd cynllunio yn cael effaith negyddol ar y sefyllfa.

Clywodd aelodau'r pwyllgor dystiolaeth hefyd gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi a Thai Cymunedol Cymru.

Fe wnaeth aelodau'r pwyllgor hefyd wrando ar dystiolaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.